Ar ddydd Mercher, Mehefin 11eg, 2014, byddwn yn dathlu ail Ddiwrnod Chwerthin Cenedlaethol Cymru.


Ar Lwyfan Glanfa yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd:

Dewch draw i ddigwyddiad dathlu chwerthin 1-2.30 prynhawn


Byddwn yn cynnal digwyddiadau cymunedol yn ystod y diwrnod. Hoffech chi i ni gynnal digwyddiad ar eich rhan CHI?

Gallwn gynnig gwasanaeth chwerthin yn eich ysgol chi!

Neu beth am ymarfer chwerthin yn eich swyddfa!

Mae’n gwbl rad ac am ddim, dim ond i chi gyfrannu at elusen Tŷ Hafan!


Dewch i ni fesur pa mor hapus ydi pobl Cymru – cyfrwch faint o weithiau wnaethoch chi chwerthin heddiw

feedback surveys

Dilynwch ni ar Twitter a ‘hoffwch’ ein tudalen Facebook er mwyn gweld y diweddaraf am y syniadau a’r digwyddiadau.

Cysylltwch â ni ar laugh@laughwales.org


Mae Chwerthin Cymru yn brosiect dan arweiniad Helen Gibbons a Robin Graham


MAE UNRHYW BETH YN BOSIB!

Ymunwch â fflachdorf chwerthin! (Byddwn yn diweddaru’n tudalennau Twitter a Facebook â gwybodaeth am y digwyddiad).

Beth am gynnal digwyddiad chwerthin a’n gwahodd ni neu drefnu inni eich hyfforddi fel arweinwyr chwerthin.

Beth am drefnu chwerthin-athon neu ddigwyddiad chwerthin noddedig!

Recordiwch eich ffrindiau neu gyd-weithwyr yn chwerthin a’u uwch lwytho ar ein SIANEL YOUTUBE!!

Dewch i ni greu ein Cadwyn Chwerthin ein hunain!

Tynnwch lun o’ch ffrindiau, y teulu neu gyd-weithwyr yn chwerthin a’u postio ar ein TUDALEN FACEBOOK! Byddwn yn creu murlun anferth o’r holl wynebau hapus.

Rhannwch eich syniad am ddigwyddiad chwerthin ar ein tudalen Facebook!


Hoffem ddiolch i gefnogwyr ein digwyddiad cyntaf, sef Chwerthin Cymru yn 2013, gan gynnwys staff Ysgol Gynradd Cae Garw, lle bu i ni ddechrau’r diwrnod – roeddech chi’n rhan annatod o’r prosiect arbennig hwn i geisio gwneud Cymru’r lle hapusaf yn y byd i gyd.