Gall chwerthin o ddydd i ddydd gael effaith sylweddol ar ein bywydau gan ei fod yn creu newidiadau i’n ffisioleg,

- ein corff a’n meddwl -

ac wrth leihau straen, yn ein gwneud yn hapusach ac yn iachach.

Gall chwerthin yn unig achosi’r newidiadau hyn! Mae’n debyg mai chwerthin ydi’r moddion gorau.


Cynhelir Diwrnod Chwerthin Cenedlaethol Cymru am yr trydydd waith ar ddydd Mercher, Mehefin 10eg, 2015,

gyda’r diben o ddathlu hapusrwydd a chwerthin yng Nghymru.



Mae Chwerthin Cymru yn brosiect dros Gymru gyfan. Fe’i lansiwyd ar Fehefin 12fed, 2013, y cyntaf o’i fath ym Mhrydain ac mae’n para drwy’r flwyddyn.

Beth am ddod yn rhan o hwn a chyfrannu syniadau ynglŷn â sut i wneud i bobl chwerthin ledled Cymru O DDYDD I DDYDD?!


Cysylltwch â ni hefyd yn: activities@laughwales.org

Ein gweledigaeth ydi sicrhau bod trigolion Cymru yn dod ynghyd i gynnal ac arwain gweithgareddau sy’n ymwneud â chwerthin!

Boed hynny mewn ysgol, swyddfa, cymuned ... urhyw un ac unrhyw le! Dewch i ni geisio gwneud Cymru’r wlad hapusaf yn y byd i gyd!

Ymunwch â ni i fod yn rhan o’r hwyl!